Belffast
Arwyddair | Pro Tanto Quid Retribuamus? |
---|---|
Math | dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf |
Enwyd ar ôl | Afon Farset |
Poblogaeth | 345,006 |
Cylchfa amser | UTC+00:00 |
Gefeilldref/i | Bonn, Hefei, Guadalajara |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Belffast |
Gwlad | Gogledd Iwerddon |
Arwynebedd | 114.995472 km² |
Uwch y môr | 3 metr |
Cyfesurynnau | 54.5964°N 5.93°W |
Belffast (Gwyddeleg: Béal Feirste;[1] Saesneg: Belfast) yw dinas fwyaf a phrifddinas Gogledd Iwerddon. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau Afon Lagan lle mae'r afon honno'n llifo i Lough Belffast, ar y ffin rhwng Swydd Antrim a Swydd Down. Mae'n gartref i iard longau Harland and Wolfe ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Neuadd Dinas Belffast (1906) ac Adeilad y Senedd (Stormont) (1932). Rhoddwyd ei siarter i Brifysgol y Frenhines ym 1909.
Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â 'Helyntion Gogledd Iwerddon', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r 1970au a'r 1990au.
Yr Helyntion
[golygu | golygu cod]Cafodd dros 1,600 o bobl eu lladd yn ystod Yr Helyntion, trais gwleidyddol yn y ddinas rhwng 1969 a 2001.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Adeilad y Senedd
- Arena Odyssey
- Crown Liquor Saloon
- Neuadd Dinas Belffast
- Neuadd Ulster
- Theatr Lyric
Enwogion
[golygu | golygu cod]- C. S. Lewis (1898-1963), awdur
- Siobhán McKenna (1923–1986), actores
- Frank Carson (g. 1928), comediwr
- Heather Harper (g. 1930), cantores
- James Galway (g. 1939), cerddor
- Van Morrison (g. 1945), canwr
- Gerry Adams (g. 1948), gwleidydd
- Alex Higgins (g. 1949), chwaraewr snwcer
- Syr Kenneth Branagh (g. 1960), actor
- John Stewart Bell, ffisegydd
- George Best, chwaraewr pel-droed, ennilydd Ballon D'or
- Danny Blanchflower, chwaraewr pêl-droed a rheolwr
- Dave Finlay, restlwr
- Jackie Blanchflower chwaraewr pel-droed
- Sir Kenneth Branagh, actor
- Christopher Brunt, chwaraewr pel-droed
- Dame Jocelyn Bell Burnell, astroffisegydd
- Patrick Carlin, derbynnydd Croes Fictoria
- Ciaran Carson, ysgrifenwyr
- Frank Carson, comediwr
- Craig Cathcart, chwaraewr pel-droed
- Shaw Clifton, cadfridog Byddin yr Iachawdwriaeth
- Lord Craigavon, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon
- Mal Donaghy, chwaraewr pel-droed
- Jamie Dornan, actor
- Barry Douglas, cerddor
- John Boyd Dunlop, dyfeisiwr
- Jonny Evans, chwaraewr pel-droed
- Corry Evans, chwaraewr pel-droed
- Carl Frampton, paffiwr
- Sir James Galway, cerddor
- Craig Gilroy, chwaraewr rygbi
- Chaim Herzog, cyn-arlywydd Israel
- Alex Higgins, chwaraewr snwcr
- Eamonn Holmes, darlledwr
- Brian Desmond Hurst, cyfarwyddwr ffilm
- Paddy Jackson, chwaraewr rygbi
- Oliver Jeffers, artist
- Dame Rotha Johnston, mentergarwr
- Lord Kelvin, ffisegydd a pheirianydd
- James Joseph Magennis, derbynnyddd Croes Fictoria
- Jim Magilton, chwaraewr pêl-droed a rheolwr
- Paula Malcomson, actores
- Mary McAleese, cyn-arlywydd Iwerddon
- Gerry McAvoy, cerddor
- Tony McCoy, joci rasys ceffylau
- Wayne McCullough, athletwr
- Alan McDonald, chwaraewr pel-droed
- Rory McIlroy, golffiwr
- Sammy McIlroy, chwaraewr pêl-droed a rheolwr
- Gary Moore, gitarydd
- Van Morrison, canwr-cyfansoddwr
- Doc Neeson, canwr-cyfansoddwr
- Dame Mary Peters, athletwr Olympaidd
- Patricia Quinn, actores
- Pat Rice, chwaraewr
- Trevor Ringland, chwaraewr rygbi
- Peter Robinson, gwleidydd
- Mark Ryder, actor
- Jonathan Simms, dioddefwr clefyd Creutzfeldt-Jakob Disease
- David Trimble, gwleidydd
- Gary Wilson, cricedwr
- Roy Walker, cyflwynydd teledu
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Ulster sy'n chwarae yn y Pro14. Maent yn chwarae yn Stadiwm Kingspan.
Lleolir nifer o brif dimau pêl-droed Gogledd Iwerddon a chlybiau hynaf y gamp yn yr holl ynys yn y ddinas. Yn eu mysg mae Cliftonville F.C..
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Cyngor Dinas Belffast
|