Maes Awyr Rhyngwladol Ben Gurion
Math | maes awyr rhyngwladol, erodrom traffig masnachol |
---|---|
Enwyd ar ôl | David Ben-Gurion |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Canolog |
Gwlad | Israel |
Uwch y môr | 135 troedfedd |
Cyfesurynnau | 32.0094°N 34.8828°E |
Nifer y teithwyr | 20,008,532 |
Rheolir gan | Israel Airports Authority |
Prif faes awyr rhyngwladol Israel a'r maes awyr prysuraf yn y wlad yw Maes Awyr Rhyngwladol Ben Gurion (Hebraeg: נמל התעופה הבינלאומי בן גוריון; Arabeg: مطار بن غوريون الدولي). Enwir ar ôl David Ben-Gurion, prif weinidog cyntaf Israel, ac adnabyddir gan y codau TLV (IATA) ac LLBG (ICAO) yn ogystal â'r enw cyffredin Natbag (Hebraeg: נתב״ג). Maes Awyr Ben Gurion yw'r foth ar gyfer cwmnïau hedfan El Al, Israir Airlines, Arkia, a Sun D'Or. Yn 2016 aeth tua 18 miliwn o deithwyr trwyddo, ac felly Ben Gurion oedd yr wythfed maes awyr ar ddeugain prysuraf yn Asia.[1] Lleolir yng nghanolbarth y wlad, 19 km (12 mi) i dde-ddwyrain Tel Aviv a 40 km (25 mi) i ogledd-orllewin Jeriwsalem.[2] Gweithredir Maes Awyr Ben Gurion gan Awdurdod Meysydd Awyr Israel, corfforaeth a berchenogir gan y llywodraeth sy'n rheoli'r holl feysydd awyr cyhoeddus a chroesfannau'r ffin yn Israel.
Maes Awyr Ben Gurion yw un o'r pum maes awyr gorau yn y Dwyrain Canol oherwydd profiad ei deithwyr a'i ddiogelwch uchel.[3] Yn ogystal â gwarchodwyr y maes awyr mewn gwisg ac mewn dillad plaen, amddiffynnir Ben Gurion gan luoedd diogelwch cenedlaethol gan gynnwys Heddlu Israel, milwyr yr IDF, ac Heddlu'r Goror. Bu'r maes awyr yn darged i sawl ymosodiad terfysgol, ond nid yw'r un ymgais i herwgipio awyren ar ei chychwyn o Ben Gurion wedi llwyddo.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "IAA Periodic Activity Reports for Ben Gurion Airport". IAA Website. Israel Airports Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-12. Cyrchwyd 15 Ionawr 2017.
- ↑ "AD 2.5 TEL-AVIV / BEN-GURION – LLBG". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-12. Cyrchwyd 2014-07-18.
- ↑ "ASQ Awards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-28. Cyrchwyd 3 Mehefin 2015.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Ben Gurion International Airport, iaa.gov.il
- Israeli Aviation Charts for flight simulation (including Ben Gurion) Archifwyd 2015-04-29 yn y Peiriant Wayback, vatil.or