Taleithiau ffederal yr Almaen
Enghraifft o: | enw un tiriogaeth mewn gwlad unigol ![]() |
---|---|
Math | talaith, rhaniadau gweinyddol yr Almaen, NUTS Lefel 1 (UE), is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gwladwriaeth | yr Almaen ![]() |
![]() |
Mae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land).[1] Gelwir y taleithiau hyn yn anffurfiol yn Bundesländ ("Gwlad ffederal") neu'n Bundesländer ("Gwledydd Ffederal"). Mae gan yr Almaen gyfansoddiad ffederal, gan iddi gael ei chreu o nifer o weriniaethau cynharach; mae sawl un o'r taleithiau hyn yn dal i gadw rhyw elfen o annibyniaeth a sofraniaeth. Gelwrir tair ohonynt (Berlin, Bremen a Hamburg) yn aml yn Stadtstaaten (“Dinas-Daleithiau") a'r 13 sy'n weddill yn Flächenländer ("Ardal-Dalaith").
Crëwyd Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (“Gorllewin yr Almaen”) ym 1949 trwy uno'r taleithiau gorllewinol (a oedd gynt dan weinyddiaeth America, Prydain a Ffrainc) a grëwyd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. I ddechrau, ym 1949, taleithiau'r Weriniaeth Ffederal oedd Baden (tan 1952), Bafaria (yn Almaeneg: Bayern), Bremen, Hamburg, Hesse (Hessen), Sacsoni Isaf (Niedersachsen), Gogledd Rhein-Westphalia (Nordrhein-Westfalen), Rhineland-Palatinate (Rheinland-Pfalz), Schleswig-Holstein, Württemberg-Baden (tan 1952) a Württemberg-Hohenzollern (tan 1952). Integreiddiwyd ac ystyriwyd Gorllewin Berlin yn wladwriaeth de facto, er nad oedd yn swyddogol yn rhan o'r Weriniaeth Ffederal.
-
Talaith Prifddinas 1 Baden-Württemberg
Stuttgart 2 Bafaria
München 3 Berlin
– 4 Brandenburg
Potsdam 5 Bremen
Bremen 6 Hamburg
– 7 Hessen
Wiesbaden 8 Mecklenburg-Vorpommern
Schwerin 9 Niedersachsen
Hannover 10 Nordrhein-Westfalen
Düsseldorf 11 Rheinland-Pfalz
Mainz 12 Saarland
Saarbrücken 13 Sacsoni
Dresden 14 Sachsen-Anhalt
Magdeburg 15 Schleswig-Holstein
Kiel 16 Thüringen
Erfurt -
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Basic Law for the Federal Republic of Germany" (PDF). Deutscher Bundestag. 28 Mehefin 2022. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2022.