Uttar Pradesh
Math | talaith India |
---|---|
Enwyd ar ôl | gogledd |
Prifddinas | Lucknow |
Poblogaeth | 199,812,341 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Yogi Adityanath |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi, Wrdw |
Daearyddiaeth | |
Sir | India |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 243,290 km² |
Yn ffinio gyda | National Capital Territory of Delhi, Haryana, Rajasthan, Madhya Pradesh, Chhattisgarh, Jharkhand, Bihar, Seti Zone, Uttarakhand, Western Development Region, Mid-Western Development Region, Himachal Pradesh |
Cyfesurynnau | 27°N 81°E |
IN-UP | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Council of Ministers of Uttar Pradesh |
Corff deddfwriaethol | Uttar Pradesh Legislature |
Pennaeth y wladwriaeth | Ram Naik, Anandiben Patel |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Uttar Pradesh |
Pennaeth y Llywodraeth | Yogi Adityanath |
Mae Uttar Pradesh (Hindi: उत्तर प्रदेश "Talaith Ogleddol"), a elwir yn aml yn U.P., yw'r dalaith fwyaf yn India o ran poblogaeth a'r bumed fwyaf o ran arwynebedd. Roedd y boblogaeth yn 166,052,859 yn 2001, mwy na phoblogaeth Ffrainc, Yr Almaen a'r Iseldiroedd gyda'i gilydd. Dim ond pump gwlad, sef Tsieina, India ei hun, yr Unol Daleithiau, Indonesia a Brasil, sydd a phoblogaeth fwy. Mae wyth dinas yn y dalaith gyda phoblogaeth o filiwn neu fwy.
Mae tiriogaeth Uttar Pradesh yn rhan helaeth o wastadtir Afon Ganga, ac yn dir ffrwythlon iawn. Mae'n ffinio â Nepal ac a thaleithiau Uttarakhand, Himachal Pradesh, Haryana, Delhi, Rajasthan, Madhya Pradesh, Chhattisgarh, Jharkhand a Bihar. Prifddinas y dalaith yw Lucknow, ond Kanpur yw'r ddinas fwyaf a'r ganolfan ddiwydiannol bwysicaf. Dinasoedd pwysig eraill yw Allahabad, Agra, Varanasi (Banaras), Meerut, a Gorakhpur. Yn 2000 ffurfiwyd talaith newydd, Uttarakhand, o ran ogleddol Uttar Pradesh.
Hindi yw iaith swyddogol y dalaith. Mae 81% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Hindŵaeth a tua 18% yn ddilynwyr Islam. Mae Varanasi (Benares) yn ddinas sanctaidd i Hindwaid, ac mae miloedd lawer yn mynd yno fel pererinion. Rhyw 13 km o Varanasi mae Sarnath, sy'n fan sanctaidd i ddilynwyr Bwdhaeth am mai yma y traddododd Gautama Buddha ei bregeth gyntaf. Mae nifer o atyniadau byd-enwog yn y dalaith, yn enwedig y Taj Mahal yn Agra a dinas adfeiliedig Fatehpur Sikri.
Roedd wyth allan o 14 Prif Weinidog India yn hannu o Uttar Pradesh, sef Jawaharlal Nehru, Lal Bahadur Shastri, Indira Gandhi, Rajiv Gandhi, Choudhary Charan Singh, Vishwanath Pratap Singh, Chandra Shekhar ac Atal Behari Vajpayee.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |