🌱Mae ein Hyfforddiant Cynaliadwyedd llwyddiannus yn ôl gyda chyfres newydd yn dechrau ym mis Ionawr! O ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd yn ogystal â galw sylweddol yn y farchnad, mae prynwyr a defnyddwyr yn gynyddol yn chwilio am gynyrch a chwmnïau sydd yn ymdrechu i gyrraedd perfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol. Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i gwmnïau bwyd a diod i adeiladu cynlluniau ymarferol sy’n ymateb i newid hinsawdd a’r argyfwng byd natur, ac yn bodloni gofynion cwsmeriaid. Cyflwynir ar-lein fel cyfres o 5 sesiwn wythnosol dan arweiniad tiwtor gan hyfforddwyr blaenllaw yn y maes sef Ecostudio a Cynnal Cymru ar y dyddiadau canlynol: 📆Ionawr 8, 15, 22, 29 a Chwerfor 5 2025. Dyma glip o Iain Cox, Cyfarwyddwr EcoStiwdio a thiwtor y cwrs, yn rhoi trosolwg o'r hyn sydd gan y cwrs i'w gynnig! Am ragor o wybodaeth a sut i gofrestru, dilynwch y ddolen yn y sylwadau. * * * * * 🌱Our successful Sustainability Training is back with a new cohort starting in January! As a result of new legislation coupled with significant market demand, buyers and consumers increasingly seek out products and brands with positive environmental and social performance. This course will equip attendees with the skills needed to implement practical plans that respond to climate change and the nature crisis, and satisfy customer needs. Delivered online as a series of 5 tutor led weekly sessions by Wales’ leading sustainability and industry trainers; Ecostudio and Cynnal Cymru on the following dates: 📆January 8, 15, 22, 29 and February 5 2025. Here's a clip of Iain Cox, Director of Ecostudio and course tutor, giving an outline of what the course has to offer! For further information and registration, please follow the link in the comments.
About us
Datblygu gweithlu medrus i gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd; hybu arloesedd a thwf cynaliadwy yng Nghymru | Developing a skilled workforce to increase productivity and efficiency; fuelling innovation and sustainable growth in Wales.
- Website
-
https://menterabusnes.cymru/food-and-drink-skills-wales/
External link for Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales
- Industry
- Business Consulting and Services
- Company size
- 11-50 employees
- Type
- Nonprofit
Employees at Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales
Updates
-
Nod Patisserie Artisan o Gwmbrân yw dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed trwy roi ystod o arferion pobi cynaliadwy ar waith ar eu taith i ddyfodol carbon isel. Mae cynaliadwyedd yn brif flaenoriaeth i Sian ac Ian Hindle a sefydlodd La Creme Patisserie yn 2005. Nawr, gyda phlant y ddau yn dal swyddi allweddol o fewn y cwmni, mae’r busnes teuluol wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau allyriadau carbon eu cwmni, gyda’r nod o ddod yn fenter sero net ar gyfer y dyfodol. Wrth siarad â Rob Hindle (Cyfarwyddwr Gweithrediadau a’r Mab Hynaf), amlinellodd rai o gynlluniau’r fenter deuluol. Meddai Rob: “Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau pwysig ac rydym wedi nodi nifer o feysydd blaenoriaeth ar gyfer lleihau allyriadau, adeiladu ein heffaith gymdeithasol ac atal gwastraff. Rydym yn datblygu cynllun i gyfyngu ar ein heffaith ar yr hinsawdd ac adeiladu ein gwytnwch wrth symud ymlaen.” Darllenwch y stori lawn yn y ddolen yn y sylwadau. * * * * * A Cwmbran Artisan Patisserie aims to celebrate its 20th birthday by implementing a range of sustainable baking practices on their journey to a low-carbon future. Sustainability is a top priority of Sian and Ian Hindle who founded La Creme Patisserie in 2005. Now, with the duo’s children holding key positions within the company, the family business has committed to taking steps to reduce their company’s carbon emissions, with the aim to become a net zero enterprise for the future. Speaking to Rob Hindle (Operations Director & Eldest Son), he outlined some of the family enterprise’s plans. Rob says: “We are committed to taking action where it matters and we have identified a number of priority areas for emissions reduction, building our social impact and preventing waste. We are developing a plan to limit our impact on the climate and build our resilience going forward.” Read the full story through the link in the comments.
-
Lansiodd rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ei Hadnoddau Addysgol newydd heddiw ar stondin Hybu Cig Cymru yn Ffair Aeaf Cymru. Adnoddau yw’r rhain i rymuso pobl ifanc i archwilio’r cyfleoedd helaeth sydd ar gael yn y diwydiant bwyd a diod. Mae’r awdur a’r athro Technoleg Bwyd yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Lloyd Henry, wedi datblygu llawlyfr cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant bwyd a diod Cymru. Mae’n rhoi sylw i lwybrau gyrfaol amrywiol a’r camau sydd eu hangen i sicrhau llwyddiant yn y maes hwn. Mae'r llawlyfr yn cwmpasu amrywiaeth o rolau ac yn cynnwys cyngor manwl ar y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer pob rôl. Dywedodd Lloyd Henry: “Roeddwn i wrth fy modd o gael fy ngwahodd i ddatblygu’r adnodd hwn. Y nod yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo trafodaethau am y gyrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar hyrwyddo gyrfaoedd ym maes technoleg bwyd, cigyddiaeth a pheirianneg.” Darllenwch y stori lawn yn y sylwadau! 🥩 👨🍳 * * * * * The Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales Programme launched their new Educational Resources today on the Meat Promotion Wales / Hybu Cig Cymru stand at the RWAS Winter Fair; a resource to empower young people to explore the vast opportunities in the food and drink industry. Author; Lloyd Henry, an inspiring Food Technology teacher at Ysgol Gyfun Gŵyr, has developed a comprehensive career guide focused on the Welsh food and drink industry, outlining various career paths and the steps needed to achieve success in this field. The guide covers a wide range of roles and detailed advice on the qualifications, skills and experience required for each role. Lloyd Henry said: “I was delighted to be invited to develop this resource. The aim is to raise awareness and promote discussions about the careers available within the food and drink Industry in Wales - with particular focus on promoting careers in food technology, butchery and engineering.” Read the full story through the link in the comments!🥩 👨🍳 Mentera | Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales | Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales
-
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad 'Gwledd o Gyfleoedd | Food Futures’ yn Ffair Aeaf CAFC! ❄ Mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru wedi cynhyrchu ystod o adnoddau addysgol newydd sy’n anelu at ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent yn niwydiant bwyd a diod ffyniannus Cymru. Mae’r deunyddiau newydd yn amlinellu llwybrau gyrfa amrywiol a chamau i sicrhau llwyddiant yn y maes hwn a bydd Rheolwyr Ymgysylltu’r Rhaglen wrth law i gynnig arweiniad ac i ateb unrhyw ymholiadau. Bydd Lloyd Henry (awdur ac Athro Bwyd a Maeth, Ysgol Gyfun Gŵyr); sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y llyfryn a’r gyfres newydd o fideos, yn ymuno â ni i rannu sut y gallwn gefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ystyried gyrfa yn y diwydiant bwyd a diod. Bydd hefyd yn coginio gwledd o ryseitiau blasus i fynychwyr eu mwynhau. Cynhelir ar Stondin Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales yn Neuadd Morgannwg, ddydd Llun, 25 Tachwedd rhwng 11:00am - 12:00pm. Dewch i ddweud helo! * * * * * Join us for the launch of 'Gwledd o Gyfleoedd | Food Futures’ at the RWAS Winter Fair! ❄ Food & Drink Skills Wales have produced a range of new educational resources that aims to inspire the next generation of talent in Wales’ thriving food and drink industry. The new materials outline various career paths and steps to achieve success in this field and the Programme’s Engagement Managers will be on hand offering guidance and to answer any queries. Lloyd Henry (author and Food and Nutrition Teacher, Ysgol Gyfun Gŵyr); who has contributed to the development of the new booklet and suite of videos, will join us to share how we can support and inspire the next generation to consider a career in the food and drink industry. He will also be cooking up a feast of tried and tested recipes for attendees to enjoy. The launch will be held on the Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales Stand at the Glamorgan Hall, on Monday, 25th November between 11:00am - 12:00pm. Come and say hi!
-
Mae dros 165 o ysgolion cynradd ledled Cymru wedi mwynhau Pecyn Syniadau Gweithgareddau Ysgol newydd a grëwyd gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Lansiwyd y pecyn, sy’n annog disgyblion i ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio ar ein cadwyni bwyd, fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru (11 – 15 Tachwedd). Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Mae Wythnos Hinsawdd Cymru eleni yn canolbwyntio ar Addasu, gan roi cyfle gwerthfawr i’n dysgwyr ymgysylltu â’r thema hon a’i harchwilio. Mae codi ymwybyddiaeth o effeithiau newid yn yr hinsawdd, a chefnogi dysgwyr i ymrwymo i gynaliadwyedd y blaned yn rhannau allweddol o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae adnoddau fel y Pecyn Gweithgareddau hwn yn ffordd wych o helpu dysgwyr i gael y sgyrsiau brys ac angenrheidiol hyn.” Darllenwch y stori lawn yn y ddolen yn y sylwadau. * * * * * Over 165 primary schools across Wales enjoyed the new School Activity Pack created by Sgiliau Bwyd a Diod Cymru | Food & Drink Skills Wales. The pack, which encourages pupils to consider environmental factors affecting our food chains, was launched as part of Wales Climate Week (November 11 – 15). Cabinet Secretary for Education, Lynne Neagle said: “Wales Climate Week this year focuses on Adaptation, providing a valuable opportunity for our learners to engage with and explore this theme. Raising awareness of climate change impacts, and supporting learners to be committed to the sustainability of the planet are key parts of the Curriculum for Wales. Resources such as this Activity Pack are a great means of helping learners to have these urgent and necessary conversations.” Read the full story through the link in the comments below.
-
Cafodd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru gyfle i ailymweld â’n cleientiaid yn MamGu Welshcakes, y tro hwn mewn adeilad newydd sbon yn Ffreutur Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a agorodd ei ddrysau ym mis Chwefror 2024. Roedd yn wych clywed am eu cynnydd a gweld sut y maent yn gweithredu strategaethau a syniadau cynaliadwy newydd o fewn eu hadeilad newydd. Dywedodd Laura Barthorpe: “Mae cynaliadwyedd wrth galon MamGu. I ni, mae’n llawer mwy - mae'n ymwneud â phobl leol a’u hamgylchedd. Rydym yn falch o fod yn cyflogi dros ddeugain o bobyddion, arlwywyr bwyd a gwneuthurwyr coffi sy’n byw’n lleol.” Darllenwch y stori lawn yn y ddolen yn y sylwadau. * * * * * Food & Drink Skills Wales | Sgiliau Bwyd a Diod Cymru had the opportunity to re-visit our clients at MamGu Welshcakes, this time at a brand new premises in St Davids Cathedral Refectory, which opened its doors in February 2024. It was great to hear about their progress and see how they are implementing new sustainable strategies and ideas within their new premises. Laura Barthorpe said: “Sustainability is at the heart of MamGu’s. For us it’s not just about cake, it’s about local people and their environment. We are proud to be employing over forty bakers, food caterers and coffee makers who live locally.” Read the full story in the link in the comments.
-
⌛ Cyfle olaf i gofrestru ar gyfer ein Hyfforddiant Egwyddorion Busnes Gwin! Dyddiad cau - 18/11/24 Last chance to register for our Principles of Wine Business course! Deadline - 18/11/24🍷
Egwyddorion Busnes Gwin Dydd Llun 13eg - Dydd Mercher 15 Ionawr 2025 Gwinllan Llanerch, Hensol, Bro Morgannwg, CF72 8GG Darlithydd: Rebecca Apley, Coleg Plumpton Bydd y cwrs yn eich galluogi i adnabod a deall eich cwsmeriaid posibl a datblygu'r brand, y pecynnu a'r llwybrau gorau i'r farchnad ar gyfer eich gwin - gyda ffocws arbennig o gryf ar dwristiaeth gwin a chyfathrebu digidol, a fydd yn eich galluogi i wneud y mwyaf o'ch elw. Mae'r gweithdy hwn yn arbennig o addas ar gyfer cynhyrchwyr gwin canolig eu maint Cymreig, rhai newydd a sefydledig. Cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen isod. Sylwer os gwelwch yn dda! Y dyddiad cau i gadarnhau eich diddordeb yw Dydd Llun, 18 Tachwedd. Bydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn trafod cymhwysedd gyda phob busnes wrth gofrestru. https://lnkd.in/em7zm2a8 * * * * * * * * * * * * * Principles of Wine Business Monday 13th - Wednesday 15th January 2025 Llanerch Vineyard, Hensol, Vale of Glamorgan, CF72 8GG Lecturer: Rebecca Apley, Plumpton College Understand your potential customers and develop the best brand, packaging and routes to market for your wine - with a particularly strong focus on wine tourism and digital communications, which will enable you to maximise your sales margins. This workshop is particularly suitable for medium-sized Welsh wine producers, both new and established. Please follow the link for further information and to register your interest in this course. Please note! Deadline to confirm your interest is Monday, 18th November. Food & Drink Skills Wales will discuss eligibility with each business upon registration. https://lnkd.in/e9TnHKpK
-
Mae Bwyd a Diod Cymru wedi lansio’r Asesiad Parodrwydd i Addasu i’r Hinsawdd – offeryn hanfodol ar gyfer busnesau bwyd a diod Cymru. Mae'r asesiad ar-lein hwn, sydd ar gael heb gofrestru, yn gwerthuso eich parodrwydd ar gyfer yr hinsawdd ar draws wyth maes hollbwysig, o weithrediadau i ymgysylltu â chwsmeriaid. Derbyn adborth ar unwaith ar gryfderau, nodi meysydd ar gyfer twf, a chael mynediad at adnoddau hyfforddi am ddim ar gyfer addasu, gwydnwch a datgarboneiddio. Rydym yn annog pob cynhyrchydd bwyd a diod i ddefnyddio'r adnodd defnyddiol hwn. Gan fod yr wythnos hon yn nodi Wythnos Hinsawdd Cymru does dim amser gwell i gwblhau'r asesiad! Dilynwch y ddolen hon i gwblhau’r asesiad: https://lnkd.in/gpbzR7ks Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn gwrando ar Gynhadledd Rithwir Wythnos Hinsawdd Cymru yr wythnos hon gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://lnkd.in/eQyg6Xqk * * * * * Food & Drink Wales has launched the Climate Adaptation Readiness Assessment - an essential tool for Welsh food and drink businesses. This online assessment, which is available without registration, evaluates your climate preparedness across eight critical areas, from operations to customer engagement. Receive immediate feedback on strengths, identify areas for growth, and access free training resources for adaptation, resilience and decarbonisation. We encourage all food and drink producers to utilise this useful resource. As this week marks Wales Climate Week there really is no better time to complete the assessment! Please follow this link to complete the assessment: https://lnkd.in/gpbzR7ks Make sure to also tune into Wales Climate Week Virtual Conference this week using the following link: https://lnkd.in/eQyg6Xqk Bwyd a Diod Cymru | Food and Drink Wales
-
“Mae’r angen i uwchsgilio’r gweithlu a chadw'r gweithlu hwnnw gyda’r sgiliau; mewn ffordd barhaus yn gwbl hanfodol.” - Yr Athro Jonathan Deacon, Ysgol Reolaeth Cranfield Dim ond un o'r negeseuon gwerthfawr o'n digwyddiad 'Uwchsgilio ac Arwain' yn Black Pool Mill, Bluestone. Roedd yn wych rhannu sut y gall Sgiliau Bwyd a Diod Cymru gefnogi busnesau drwy ddarparu gwybodaeth a mynediad at arbenigwyr ar uwchsgilio, prentisiaethau a rheolaeth. Roedd y diwrnod yn orlawn o sgyrsiau am bŵer datblygu arweinyddiaeth ac roedd yn gyfle gwych i glywed safbwyntiau siaradwyr ysbrydoledig fel yr Athro Jonathan Deacon, Ysgol Reolaeth Cranfield, a Helen John, Academi Hyfforddiant Bluestone. Cawsom hefyd y pleser o rwydweithio â llawer o fusnesau blaengar a thrafodwyd ffyrdd o greu effeithiau parhaol ar draws ein sector. I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ymgysylltu, cysylltwch â ni yn sgiliau-cymru@mentera.cymru neu ewch i’n gwefan: https://lnkd.in/d9AdgUJd * * * * * "The the need for upskilling the workforce and keeping that workforce skilled in an ongoing way is absolutely critical." - Professor Jonathan Deacon, Cranfield School of Management Just one of the take away messages from our 'Skill Up, Lead Up' event at Black Pool Mill, Bluestone. It was a great to share how Food & Drink Skills Wales can support businesses by providing information and access to experts on upskilling, apprenticeships and management. The day was packed with thought-provoking conversations about the power of leadership development and was a great opportunity to hear the perspectives of inspiring speakers like Professor Jonathan Deacon, Cranfield School of Management, and Helen John, Bluestone Training Academy. We also had the pleasure of networking with many forward-thinking businesses and discussed ways to create lasting impacts across our sector. For more information on engagement events, please contact us at skills-wales@mentera.cymru or visit our website: https://lnkd.in/dRJ3k_AB
-
Egwyddorion Busnes Gwin Dydd Llun 13eg - Dydd Mercher 15 Ionawr 2025 Gwinllan Llanerch, Hensol, Bro Morgannwg, CF72 8GG Darlithydd: Rebecca Apley, Coleg Plumpton Bydd y cwrs yn eich galluogi i adnabod a deall eich cwsmeriaid posibl a datblygu'r brand, y pecynnu a'r llwybrau gorau i'r farchnad ar gyfer eich gwin - gyda ffocws arbennig o gryf ar dwristiaeth gwin a chyfathrebu digidol, a fydd yn eich galluogi i wneud y mwyaf o'ch elw. Mae'r gweithdy hwn yn arbennig o addas ar gyfer cynhyrchwyr gwin canolig eu maint Cymreig, rhai newydd a sefydledig. Cofrestrwch trwy ddilyn y ddolen isod. Sylwer os gwelwch yn dda! Y dyddiad cau i gadarnhau eich diddordeb yw Dydd Llun, 18 Tachwedd. Bydd Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn trafod cymhwysedd gyda phob busnes wrth gofrestru. https://lnkd.in/em7zm2a8 * * * * * * * * * * * * * Principles of Wine Business Monday 13th - Wednesday 15th January 2025 Llanerch Vineyard, Hensol, Vale of Glamorgan, CF72 8GG Lecturer: Rebecca Apley, Plumpton College Understand your potential customers and develop the best brand, packaging and routes to market for your wine - with a particularly strong focus on wine tourism and digital communications, which will enable you to maximise your sales margins. This workshop is particularly suitable for medium-sized Welsh wine producers, both new and established. Please follow the link for further information and to register your interest in this course. Please note! Deadline to confirm your interest is Monday, 18th November. Food & Drink Skills Wales will discuss eligibility with each business upon registration. https://lnkd.in/e9TnHKpK