Salvador, Brasil
Arwyddair | Sic illa ad arcam reversa est |
---|---|
Math | Bwrdeistref ym Mrasil, metropolitan region |
Enwyd ar ôl | Iesu |
Poblogaeth | 2,418,005 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Hino de Salvador |
Pennaeth llywodraeth | Bruno Reis |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Gefeilldref/i | Fflorens, Angra wneud Heroismo, Cayenne, Cascais, Lisbon, Los Angeles, Philadelphia, Valparaíso, Natal, Maracay, Chongqing |
Nawddsant | Francis Xavier |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Greater Salvador, Immediate Geographic Region of Salvador, Merco Cities Network |
Sir | Bahia |
Gwlad | Brasil |
Arwynebedd | 693 km² |
Uwch y môr | 8 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Bay of All Saints, Enseada dos Tainheiros, Enseada do Cabrito, Baía de Aratu |
Yn ffinio gyda | Lauro de Freitas, Simões Filho, Saubara, Candeias, Itaparica, Madre de Deus, Salinas da Margarida, São Francisco do Conde, Vera Cruz |
Cyfesurynnau | 12.9831°S 38.4928°W |
Cod post | 40000-000 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Municipal Prefecture of Salvador |
Corff deddfwriaethol | Municipal Chamber of Salvador |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Salvador |
Pennaeth y Llywodraeth | Bruno Reis |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.759 |
- Am leoedd eraill o'r un ewn gweler Salvador. Gweler hefyd San Salvador a São Salvador.
Dinas ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngogledd-ddwyrain Brasil a phrifddinas talaith Bahia yw Salvador (enw hanesyddol, São Salvador da Baía de Todos os Santos neu Salvador de Bahia; weithiau Bahia yn unig ar hen fapiau ac mewn llyfrau a gyhoeddwyd cyn canol yr 20g). Mae'n enwog ym Mrasil am ei charnifal a'i diwylliant poblogaidd, ei cherddoriaeth a'i phensaerniaeth. Salvador oedd prifddinas gyntaf gwladfa Bortiwgalaidd Brasil, ac mae'n un o'r hynaf yn y wlad honno ac un o'r dinasoedd Ewropeaidd hynaf yn y Byd Newydd. Gyda phoblogaeth o 2,892,605 (2007), dyma'r ddinas drydedd fwyaf poblog ym Mrasil, ar ôl São Paulo a Rio de Janeiro, a'r wythfed felly yn America Ladin, ar ôl Dinas Mexico, São Paulo, Buenos Aires, Lima, Bogotá, Rio de Janeiro a Santiago de Chile.
Mae dros 80% o boblogaeth Salvador o dras etnig Affricanaidd, ac mae'n brif ganolfan y diwylliant Affro-Frasilaidd. Mae canol Salvador, y 'Pelourinho', yn nodweddol am ei adeiladau hanesyddol, yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Salvador, ac mae wedi cael ei dynodi gan UNESCO yn Safle Treftadaeth y Byd ers 1985.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Portiwgaleg) Gwefan swyddogol dinas Salvador Archifwyd 2014-06-05 yn y Peiriant Wayback