Åland
![]() | |
![]() | |
Math | rhan o'r Ffindir, rhanbarth ymreolaethol ![]() |
---|---|
Prifddinas | Mariehamn ![]() |
Poblogaeth | 30,144 ![]() |
Anthem | Ålänningens sång ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Katrin Sjögren ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swedeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Ewrop, Gwledydd Nordig ![]() |
Gwlad | Y Ffindir ![]() |
Arwynebedd | 1,582.93 km² ![]() |
Uwch y môr | 129 metr ![]() |
Gerllaw | Sea of Åland, Archipelago Sea ![]() |
Yn ffinio gyda | Southwest Finland, Sir Stockholm, Sir Uppsala, dyfroedd rhyngwladol ![]() |
Cyfesurynnau | 60.25°N 20°E ![]() |
FI-01 ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Åland ![]() |
Corff deddfwriaethol | Senedd Aland ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | lantråd ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Katrin Sjögren ![]() |
![]() | |
CMC y pen | 1,194 million € ![]() |
Arian | Ewro ![]() |
Rhanbarth neu 'ymreolaeth' sy'n perthyn i'r Ffindir, yn ne-orllewin y Ffindir yn nwyrain Môr Åland yn y Môr Baltig yw Åland neu Ynysoedd Åland (Swedeg: Åland Skärgård, Ffinneg: Ahvenanmaa). Swedeg yw iaith swyddogol yr ynysoedd.[1] Saif ger aber Gwlff Bothnia. Mae'r casgliad hwn o ysnysoedd yr archipelago, gyda'i gilydd, yn cael eu hystyried fel y rhanbarth lleiaf o Ffindir, ac yn gyfanswm o 0.49% o arwynebedd y Ffindir a 0.50% o'i phoblogaeth.
Y brif ynys yw Fasta Åland ac arni y trig 90% o boblogaeth ymreolaeth Åland[2] a cheir dros 6,500 o ynysoedd eraill i'r dwyrain o Fasta Åland. Rhyngddi â thir mawr Sweden, gorwedd 38 km (24 milltir) o fôr.
Gan mai rhanbarth sy'n ymreoli ei hunan ydyw, mae'r rhan fwyaf o rymoedd deddfwriaethol yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Åland ei hun, yn hytrach na Llywodraeth y Ffindir.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Proto-Norweg yw tarddiad yr enw Åland, a'r gair gwreiddiol, mae'n debyg, oedd *Ahvaland sy'n golygu "Y tir a wnaed o ddŵr". Yn Swedeg datblygodd (neu newidiodd y gair yn nhreigl y blynyddoedd) i Åland, sy'n golygu'n llythrennol "Tir afon", er mai pethau digon prin yw afonydd yn naearyddiaeth Åland. Enw Ffinneg yr ynys ydy Ahvenanmaa.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Aland Islands. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Ionawr 2014.
- ↑ "The Åland Islands". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-09. Cyrchwyd 2015-01-09.
- ↑ Virrankoski, Pauli. Suomen historia. Ensimmäinen osa. SKS 2001. ISBN 951-746-321-9. Page 59.