Rydym wedi bod yn siarad dros Coedwigoedd Glaw Cymru yn y Senedd fel rhan o’r Cynghrair dros Goedwigoedd Glaw Cymru 🎉 Mae coedwigoedd glaw tymherus prin Cymru, sy’n gorchuddio llai nag 1% o’r blaned, mewn perygl. Mae’r coedwigoedd hudolus hyn yn gartref i dros 400 o rywogaethau prin o fwsoglau, cennau a bywyd gwyllt eraill, gan weithredu fel mannau pwysig ar gyfer bioamrywiaeth ac yn gronfeydd carbon naturiol 🌿 Er gwaethaf hyn mae nhw o dan fygythiad oddi wrth rhywogaethau ymledol, dirywiad yng nghyflwr y cynefin a diffyg diogelwch ⚠️ Mae adroddiad y Cynghrair ar Gyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru a lansiwyd yn y Senedd ddydd Mawrth yn galw’n groch am weithredu uniongyrchol i arbed yr ecosystemau gwerthfawr yma. Mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru / Welsh Government i gymryd camau brys i warchod y trysorau ecolegol hyn cyn iddi fod yn rhy hwyr Yn ystod yr achlysur holl bwysig yma siaradodd Adam Thorogood, Rheolwr Rhaglen Coedwigoedd Glaw Plantlife yn angerddol am yr angen i warchod a rheoli’r coedwigoedd sydd yn weddill yn well ochr yn ochr â Neil Lambert, Pennaeth y Tir RSPBCymru, Gethin Davies, Rheolwr Prosiect Coedwigodd Glaw Celtaidd Cymru a Tim Birch, Pennaeth Eirioli, Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru. Er mwyn gweithio tuag at warchod ac adfer y cynefinoedd unigryw hyn lansiwyd yr adroddiad fel rhan o’r Gynghrair newydd er budd Coedwigoedd Glaw Cymru (CGGC) - partneriaeth o fudiadau cadwraethol sydd yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer gwell dyfodol. Mae’r Gynghrair yn cynnwys: PlantlifeCymru, Wildlife Trusts Wales, @Coed Cadw, RSPB Cymru, National Trust Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri // Eryri National Park Authority. Bydd y cydweithrediad pwerus hwn yn hyrwyddo diogelu, adfer ac ehangu coedwigoedd glaw Cymru, gan sicrhau bod y coetiroedd hynafol hyn a’r fioamrywiaeth anhygoel y maent yn eu cynnal yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Diolch i bawb a ymunodd efo ni ar yr achlysur i nodi'r garreg filltir o eirioli ar ran Coedwigoedd Glaw Cymru. Gyda’n gilydd, gallwn warchod y rhan hanfodol hon o’n treftadaeth naturiol! Darganfyddwch fwy: 👉 https://lnkd.in/dFcXMP8X 👉 https://lnkd.in/eBciFKyG #CoedwigoeddGlawCymru #CoedwigoeddGlawCeltaidd #AdferNatur #WythnosCoedCenedlaethol #CoedwigoeddGlawTymherus
-
+2